Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Gweithio gyda ni

Hysbyseb Swydd Cynorthwydd Marchnata YSWEF

Mae Ymddiriedolaeth Susan Williams-Ellis Foundation (YSWEF) yn chwilio am berson rhan amser, 8 awr yr wythnos i gynorthwyo gyda gwaith hyrwyddo a marchnata.

Pwrpas y Swydd

Gweithio gyda’r Curadur Profiadau i hyrwyddo digwyddiadau, arddangosfeydd a chasgliad parhaol Ymddiriedolaeth Susan Williams-Ellis Foundation (YSWEF), Plas Brondanw, a denu pobl i fynychu a chymryd rhan yn ein gweithgareddau.

Bydd hyn yn cynnwys hysbysebu ar ein amrywiol llwyfannau digidol:

  • Mailchimp
  • Ticket Tailor
  • Facebook
  • Instagram

· Gwefan Plas Brondanw (mae hwn yn cael ei gynnal gan rhywun allanol, ond bydd angen gyrru cynnwys iddi hi)

Hefyd, creu posteri a thaflenni i’w hargraffu a’u dosbarthu mewn llefydd cyhoeddus yn lleol, a gyrru datganiadau i’r wasg pan fo’n briodol.

Sgiliau Hanfodol

  • Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Dealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol a theclynnau marchnata digidol eraill
  • Sgiliau dylunio graffeg sylfaenol a synnwyr gweledol dda
  • Y gallu i fod yn drefnus a gwneud y gwaith mewn modd amserol
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm a chydweithio ar brosiectau creadigol

Cyflog

£11 yr awr am 8 awr yr wythnos. Bydd chwe mis o gyfnod prawf cyn i’r swydd gael ei chadarnhau yn barhaol.

Lleoliad

Mae YSWEF wedi ei leoli yn Plas Brondanw, Llanfrothen, a bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fynychu’r safle yn rheolaidd, ond mae modd gweithio adref rhan o’r amser hefyd.

Ceisiadau a Dyddiad Cau

Gyrrwch CV a llythyr yn egluro pam hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd i seran@susanwilliamsellis.org erbyn 9am ar 11eg Ionawr 2024