Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Agored 2024

Trawsffurfiad

9 Mawrth - 5 Mai 2024

Thema arddangosfa Agored blwyddyn yma yw ‘Trawsffurfiad’, ac mae gwaith bron i gant o wahanol artistiaid i’w gweld yn y sioe, pob un wedi ymateb i’r thema yn ei ffordd unigryw ei hun. Mae yma olygfeydd hunllefus, tirweddau heddychlon, hunain bortreadau, cerfluniau, gwaith naratif, gwaith haniaethol, gwaith ffigyrol. Mae’r themâu sydd dan sylw yn cynnwys yr amgylchedd, datblygiad personnol, breuddwydion, hunllefau, trais, rhyfel, cylchoedd bywyd, harddwch natur a hyblygrwydd deunyddiau. Does dim geiriau all ddisgrifio’r amrywiaeth anhygoel a’r talent sydd ar weld yma, mae’n rhaid i chi ddod yma i weld!

Yn ogystal a’r arddangosfa Agored, mae detholiad o waith Susan Williams-Ellis wedi’i ddewis i’w arddangos fel rhan o thema Trawsnewid. Dyma'r tro cyntaf i rai o'r gweithiau hyn gael eu harddangos yn gyhoeddus. Ewch i Trawsffurfiad 2024 am rhagor o wybodaeth.

Gwobr Artist sy’n dod i’r Amlwg
Enillydd y gwobr artist sy’n dod i’r amlwg blwyddyn yma yw Ali Pickard, am ei dau ddarn 3D – ‘Y Medelwr Geiriau’ a ‘Difodiant’. Hoffwn ei llongyfarch hi’n dwymgalon, ac edrychwn ymlaen yn fawr i gynnal arddangosfa lawnach o’i gwaith hi ym mis medi 2025. Mae’r artist sy’n dod i’r amlwg yn enill £500 tuag at y gost o baratoi arddangosfa’r flwyddyn ganlynol.

Ali Pickard

Gwobr y Bobl
Rydym yn rhoi gwobr o £500 i’r arlunydd sy’n derbyn y mwyaf o bleidleisiau gan ymwelwyr i’r arddangosfa, felly cofiwch bleidleisio dros eich ffefryn. Bydd y pleidleisiau’n cael eu cyfrif ar fore’r 19eg o Fawrth, felly rhaid pleidleisio cyn hynny.

Paentio Gyda Geiriau
Blwyddyn yma am y tro cyntaf mae gyda ni ddau fardd preswyl sydd wedi cael eu dewis i ymateb i rhai o’r darnau yn yr arddangosfa agored. Bydd Aled Jones-Williams yn barddoni yn y Gymraeg, a Suzanne Iuppa yn y Saesneg. Bydd y ddau yn cynnal gweithdai barddoniaeth ecffrastig fel rhan o’r cynllun ‘Paentio Gyda Geiriau’ gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, a bydd darlleniadau o’u gwaith yn cael eu cynnal cyn diwedd yr arddangosfa. Edrychwch ar y dudalen ‘digwyddiadau’ am ddyddiadau’r gweithdai a’r darlleniadau.

Aled Jones-Williams ac Suzanne Iuppa