Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Trawsffurfiad

Susan Williams-Ellis

Trwy gydol 2024


Pob blwyddyn, rydym yn dewis thema ar gyfer holl arddangosfeydd Plas Brondanw, yn cynnwys gwaith Susan Williams-Ellis.

Blwyddyn yma y thema yw ‘Trawsffurfiad’ ac mae ein curadur casgliadau wedi paratoi arddangosfa o waith Susan sy’n dyddio o gyfnodau ffurfiannol yn ei datblygiad fel artist a dylunydd. Bydd yr arddangosfa’n amrywio ychydig wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen, ond bydd y prif ddarnau ar weld yn y Parlwr neu’r Ystafell Las trwy gydol y cyfnod. Dyma'r tro cyntaf i rai o'r gweithiau hyn gael eu gweld yn gyhoeddus. Cliciwch isod i weld y catalog ar gyfer yr arddangosfa.