Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Plas Brondanw – Tŷ Hanesyddol

Yr Adeilad

Hawdd yw adnabod y gwelliannau a wnaeth Clough Williams-Ellis ei hun i’r tŷ a etifeddodd gan ei gyndadau’r Williamsiaid (adain y bwtres, y bont ar y fflat uchaf a’r logia). Mae Plas Brondanw wedi tyfu fesul tipyn dros y 400 mlynedd ddiwethaf. Mae ei adeiledd o waith maen cain yn ffurfio grŵp bychan, sy’n ffitio’n gywrain i’w lle ar ochr y bryn.

Mae grât a bwa llydan y lle tân (cegin fferm Duduraidd yn wreiddiol, ac ystafell fwyta wedi hynny) yn ffurfio’r canolbwynt a adeiladwyd o’i gwmpas. Ar ochr y cwm, datblygodd tŵr rhwng dwy adain sy’n dyddio o 1660, ac sy’n edrych dros y clos hir o’r 18fed ganrif. Islaw, ar yr un lefel â’r ardd isaf, mae bragdy a ffynnon; mae gan y prif ystafelloedd uchod (a ddaeth yn llyfrgell ar y llawr gwaelod ac ystafell gyfarch ar y llawr cyntaf) ffenestri o’r 18fed ganrif wedi’u gosod yn wal y talcen sy’n gofnod o’r esblygiad hwn.

Yn ymestyn ymhellach i’r gogledd-ddwyrain gan ffurfio blaen hir i’r cwm a chyda pedwerydd llawr ymestynnol, dyma’r fflat llawr uchaf lle ailddechreuodd Clough ac Amabel Williams-Ellis eu bywyd ym Mhlas Brondanw ar ôl i dân ei ddinistrio yn 1951. Cafodd tu mewn y prif dŷ isod, a’r grisiau carreg, eu hailosod yn 1952-53.

Cynllun Plas Brondanw gan Clough Williams-Ellis, argraffwyd 1954

Yn y 1930au, cafwyd rhagor o ystafelloedd trwy ychwanegu tŵr y bwtres, wedi’i orffen yn gynnil mewn gwaith maen rwbel. Cafodd y tŷ ei ymestyn yn y 18fed ganrif hefyd, gydag uned lydan ar wahân yn y gogledd-ddwyrain, a ffenestri (wedi’u blocio bellach) yn edrych tua’r Wyddfa. Cafodd hwn ei ailfodelu yn dri bwthyn gweithwyr yn hwyr yn yr 19eg ganrif, pan ychwanegwyd y talcen grisiog.

Richard Haslam, 2018

Cynllun Plas Brondanw ar ôl Clough Williams-Ellis, gan ei ferch Susan, tua 1980

Plas Brondanw, ar gyfer Country Life, 1930.

Grisiau tu mewn i Plas Brondanw, ar gyfer Country Life, 1930.

Grisiau tu mewn i Plas Brondanw, ar gyfer Country Life, 1930.

Cnicht, gan Cecily Williams-Ellis, 1930au.

Grisiau tu mewn i Plas Brondanw, ar gyfer Country Life, 1930.

Plas Brondanw, ar gyfer Country Life, 1930.

Plas Brondanw, ar gyfer Country Life, 1930.

Llfrygell Brondanw, ar gyfer Country Life, 1930.

Plas Brondanw, ar gyfer Country Life, 1930.

Plas Brondanw, ar gyfer Country Life, 1930.

Plas Brondanw gan Cecily Williams-Ellis, 1930au.

Parlwr Plas Brondanw, ar gyfer Country Life, 1957.

Plas Brondanw, 1880au.

Llfrygell Brondanw, ar gyfer Country Life, 1930.

Plas Brondanw, 1900au.

Grisiau tu mewn i Plas Brondanw, ar gyfer Country Life, 1957.

Ystafell Fwyta Plas Brondanw, ar gyfer Country Life, 1930.

Llfrygell Brondanw gan Sam Beazley, 1950.