Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Gweithdy Darlunio ym Mhortmeirion

Gyda Ruth Koffer

6 Mehefin 2024: 9:45 – 1pm

Gadewch i'r storïwraig gweledol, Ruth Koffer, eich cefnogi i ddarlunio yn yr awyr iach o gwmpas Portmeirion. Bydd Ruth yn cynnig ymarferion ac awgrymiadau ar gyfer codi hyder a gweithio gyda'ch beirniad mewnol. Bydd y ffocws ar ddatblygu rhyddid mynegiant dros gywirdeb lluniadau. Mae’r gweithdy yn addas ar gyfer pob gallu artistig a phob grŵp oedran. Mae croeso i blant a phobl ifanc yn eu harddegau os yng nghwmni oedolyn.

Bydd Seran Dolma, curadur profiadau Plas Brondanw yn cwrdd â chi ger y twnnel deiliog o'r prif faes parcio ym Mhortmeirion am 9:45am i'ch cyflwyno i Ruth. Dewch â llyfrau braslunio A4 cefn caled. Y cyfrwng ar gyfer y gweithdy hwn fydd pinnau ysgrifennu Posca. Byddwn yn darparu rhai o'r rhain, ond os gallwch ddod â'ch rhai eich hun, gorau oll. Bydd angen o leiaf 3 lliw arnoch, eich dewis chi o ran lliwiau. Y maint gorau Posca nib i'w ddewis yw PC-5M. Hefyd dewch â chlustog neu bad penlinio i eistedd arno mewn gwahanol leoliadau. Gwisgwch esgidiau fflat os gwelwch yn dda, ac mae het brig yn ddefnyddiol ar ddiwrnod heulog. Mae angen i chi fod yn teimlo'n dda ar y diwrnod oherwydd gall fod yn flinedig arlunio y tu allan. Os yw’r tywydd yn wlyb, gellir cysgodi o dan Golofnres Bryste ac mewn amball fan arall, a bydd cyfle am doriad dan do yn y canol.

Bydd Ruth Koffer yn arddangos ei gwaith sydd wedi ysbrydoli gan Portmeirion gyda ni yn Brondanw yn mis Hydref.

Gallwch weld mwy am ei gwaith a’i thechnegau dysgu yma: https://ruthkoffer.com